Mae disgwyl i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri safoni cannoedd o enwau llynnoedd mewn ymgais i ddiogelu enwau Cymraeg cynhenid.

Dros y blynyddoedd mae enwau Saesneg answyddogol wedi dechrau cael eu defnyddio i adnabod rhai o lynnoedd y parc.

Mae’r rhain yn cynnwys Lake Australia (Llyn Bochlwyd), Bearded Lake (Llyn Barfog) a Bala Lake (Llyn Tegid).

Ond yn sgil pryderon cynyddol fod rhai o’r enwau Cymraeg yn cael eu disodli, ac er mwyn safoni’r rhai sydd eisoes â mwy nag un ffurf, bydd awdurdod y parc yn trafod yr enwau y dylid eu defnyddio o hyn allan.

Daw hyn flwyddyn wedi i Awdurdod y Parc Cenedlaethol bleidleisio o blaid cefnu ar Snowdonia a Snowdon a defnyddio Eryri a’r Wyddfa yn unig.

No comments yet!

Cymru

!cymru@feddit.uk

Create post

Popeth Cymru.

Everything Wales.

Community stats

  • 35

    Monthly active users

  • 67

    Posts

  • 11

    Comments

Community moderators